Diwrnod 8 - Dydd Llun, Mawrth 12, 2007
Rydym wedi cyrraedd Aberystwyth yr wythnos hon. Fe gawsom ni ymateb da iawn gan bob math o fusnesau yn Aber, gyda dros 15 yn cymryd rhan yn yr ymgyrch drwy arddangos posteri neu lyfrau, felly heddiw aethom o gwmpas y busnesau er mwyn dosbarthu deunydd ac esbonio ychydig mwy am y cynllun. Roedd siopau trin gwallt, caffis, meddygfeydd a syrjeris deintyddol yn cymryd rhan, yn ogystal â'r ysgol gynradd leol ym Mhenparcau, Llwynyreos. Fel rhan o'r ymgyrch 'Darllen Miliwn o Eiriau yng Nghymru', darparwyd copïau o'r llyfrau Stori Sydyn gyda'r nifer o eiriau ar y clawr, er mwyn i'r rhieni gael cyfrannu at y cyfanswm! Bum hefyd yn y Ganolfan Hamdden ac yn Coleg Ceredigion yn trefnu arddangosfeydd. Gyda'r holl gefnogaeth, dwi'n gobeithio y bydd y cyfryngau lleol yn pigo fyny ar neges Stori Sydyn ac y cawn luniau yn y papur newydd.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment