Nôl adre.
Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi casglu pob math o wybodaeth am arferion darllen pobl, drwy drefnu arddangosfeydd, gweithdai a gwahanol ddigwyddiadau eraill.
Un canlyniad diddorol o'r ymchwil yw pa mor bwysig y mae nain a taid wrth annog plant ifanc i ddarllen. Dywedodd llawer o'r bobl hyn wrthym mai nhw oedd yr unig bobl oedd yn darllen gyda'i wyrion neu wyresau, ac mai nhw oedd yr unig rai oedd yn prynu llyfrau fel anrhegion iddynt. Roedd hefyd yn ddiddorol nodi fod pobl yn gweld llyfrgelloedd fel y ffordd gorau i hybu darllen, hyd yn oed os nad oeddent yn mynd i lyfrgell eu hunain!
Y peth mwyaf positif oedd yr 'Ydi' cadarnhaol iawn i'r cwestiwn: A yw darllen yn bwysig? Wrth ofyn iddynt esbonio pam, roedd y sylwadau yn cynnwys:
mae'n estyn eich gorwelion
mae'n dysgu pethau newydd i chi
mae'n rhoi cymorth i chi wella'ch bywyd
mae'n gwneud i chi ymlacio
mae'n hwyl
mae'n eich ysbrydoli
Gobeithio y parha'r gyfres Stori Sydyn i wneud hyn.
Hwyl fawr!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment