Diwrnod 11 - Dydd Iau, Mawrth 15, 2007

Tri digwyddiad yn Aberystwyth heddiw.

Y cyntaf oedd gweithdy gydag awdures The Rubber Woman, Lindsay Ashford.

Gan gydweithio â Geraldine Taylor, y tiwtor sgiliau sylfaenol, a Derval Casey, ymgynghorydd dysgu yn y gweithle, darllenodd Lindsay (sy'n byw y tu allan i Aberystwyth yn Borth) ddarnau o'i llyfr a cafodd y grwp y siawns i'w holi. Roedd yn ddiddorol clywed am sut y cychwynodd Lindsay sgwennu ffuglen trosedd, am ei gradd mewn troseddeg a'r ymchwil aeth i mewn i The Rubber Woman. Mae'n debyg i Lindsay ddilyn gweithwraig cymunedol yn ei gwaith wrth iddi drio cael puteiniaid i ffwrdd o'r strydoedd yn Birmingham, ac iddi ddysgu llawer am y cyffuriau sy'n cadw'r merched yn gaeth i fywyd mor drychinebus.

Cafodd y dysgwyr i gyd gopi o'r llyfr ar ddiwedd o sesiwn, ac mae'r tiwtor yn mynd i ddarllen y llyfr fel grwp, gyda'r dysgwyr yn dilyn yn eu copïau unigol. Wedyn mi fyddent yn cael trafodaeth am y llyfr ac yn ysgrifennu ychydig yn dweud eu barn. Bydd y darnau yma wedyn yn cael ei gyrru i ni. Dwi'n edrych ymlaen i weld eu sylwadau.

No comments: