Penderfynais y byddai'n syniad da i drio cyrraedd gymaint o bobl â phosib drwy gymryd gofod arddangos mewn canolfan siopa. Y syniad oedd bod y bobl oedd yn mynd i ganolfan siopa ddim o reidrwydd yn ddarllenwyr brwd neu'n bobl oedd yn ymweld â llyfrgelloedd, ac fel hyn y byddai'n bosib hybu'r llyfrau i'r cyhoedd.
Gyda hyn mewn golwg, cawsom ofod yng nghanolfan siopa'r Quadrant reit yng nghanol y ddinas, a rhoddwyd gwahoddiad i Lyfrgell Abertawe ymuno â ni er mwyn dangos beth oedd ar gael mewn llyfrgelloedd erbyn hyn. Mae rhai pobl dal yn meddwl fod llyfrgelloedd yn lefydd diflas a llym, ac mae hyn wedi bod yn ddelwedd anodd iddynt gael gwared ohono. Ond y dyddiau hyn, mae llyfrgelloedd yn adnodd gwerthfawr i'r holl gymuned ei ddefnyddio, a does dim rhaid bod yn ddistaw trwy'r adeg!
Yn y pnawn, daeth Lleucu i gymryd drosodd ar y stondin ac fe es i fyny i'r Dragon Arts and Learning Centre ble'r oeddem wedi trefnu i Lynne Barrett-Lee, awdur un o gyfres Stori Sydyn y llynedd ac awdur llyfr Fiona Phillips, A Day to Remember, yn gwneud gweithdy ysgrifennu creadigol.
Mae'r Dragon Arts and learning centre yn darparu dosbarthiadau addysg a chelf a chyfleon eraill i unrhyw un sydd wedi bod yn ddigartref neu wedi profi unrhyw fath o waharddiad cymdeithasol. Maen nhw'n helpu'r unigolion hyn i ennill cymwysterau am y gwaith y maent yn ei wneud adref ac yn y ganolfan.
Siaradodd Lynne gyda'r grwp am sut y mae hi'n rhoi stori at ei gilydd, a rhoddodd ambell awgrym iddynt am ble i ddechrau gyda stori. Roedd sawl aelod o'r grwp eisiau gwybod sut aeth ati i gyhoeddi ei gwaith, ac esboniodd Lynne am y ffordd gorau i fynd o'i chwmpas hi.
Roedd y grwp yn un brwdfrydig iawn, ac wrth i Lynne gael hoe fach cawsant gyfle i sgwennu ei storïau ei hunain. Yn debyg i'r grwp yn y carchar, roedd y gwaith yn onest iawn - weithiau'n ysgytiol. Roedd rhai storïau'n disgrifio trais a homoffobia, camddefnydd o gyffuriau ac alcohol a dieithriad. Er bod dim un o'r grwp yn barod i ddweud fod y darnau'n hunangofiannol, roedd yn amlwg fod rhai ohonynt yn sgwennu o brofiad personol.
Ar ddiwedd y sesiwn, cafodd Lynne syrpreis arbennig wrth i un aelod o'r grwp oedd wedi cymryd lluniau ohoni ar ddechrau'r gweithdy ei chyflwyno gyda llun wedi'i fframio ohoni hi a'r grwp i gofio'r diwrnod. Diolch i bawb yn y ganolfan am eu help.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment