Tro Rhodri i ymweld â'r carchar heddiw, gan ein bod ni'n rhedeg gweithdy yng ngharchar Abertawe gyda'r awdur Niall Griffiths.
Mae Carchar Abertawe yn garchar Categori B, ac y mae'n dal dynion sydd naill ai wedi eu cadw yn y ddalfa gan y llysoedd, wedi ei dedfrydu neu wedi eu canfod yn euog.
Wrth ddechrau meddwl am y gweithdai yma yn y carchar, es ati i ofyn i swyddogion addysg y carchardai pa fath o lyfrau oedd y carcharorion yn hoffi ei darllen. Yn ddigon eironig, 'thrillers' trosedd ac yn enwedig trosedd go iawn oedd yn apelio fwyaf! Felly fe benderfynais mae llyfr Niall Griffiths, comedi du am ddyn yn rhedeg i ffwrdd o Lundain gyda 'gangster' ar ei ôl fyddai'r dewis gorau ar gyfer y gweithdai yma.
Pythefnos yn ôl, aeth Rhodri a Niall i'r carchar am y tro cyntaf er mwyn rhoi copïau o'r llyfrau allan ac i Niall gael cyflwyno ei hun fel awdur, gan esbonio'r hyn oedd o'n ei wneud o ddydd i ddydd a siarad am ei lyfrau eraill. Yna fe osododd y sialens o sgwennu 'Stori Sydyn' o ddim mwy na 500 gair, gan ddweud y byddai'n dod yn ôl yn ystod Wythnos Cymunedau'n Darllen er mwyn dewis yr un gorau i dderbyn gwobr.
Dywedodd Rhodri fod yr hogia'n reit onest gyda Niall am y llyfr - dywedodd un iddo fwynhau'r llyfr yn arw, ond fod y diwedd yn sâl! Dwi'n meddwl fod Niall yn oce am y peth!
Gweithiodd y sialens sgwennu yn arbennig o dda. Roedd rhai ohonynt yn straeon emosiynol dros ben, yn dod yn syth o'r galon, ac mae llawer o'r dynion yma wedi cael profiadau ofnadwy. I ryw raddau, roedd yn esbonio sut y bod rhai o'r dynion deallus a senstif yma wedi darganfod eu hunain yn y fath sefyllfa.
Dwi'n gobeithio y cawn ni gyfle i roi rhai o'r straeon ar y blog yma.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment