Diwrnod 19 - Dydd Gwener, Mawrth 23, 2007

Diwrnod olaf prosiect Cymunedau'n Darllen yn Abertawe.

Mae wedi bod yn gyfnod prysur dros ben, ond dyma ni wedi cyrraedd y diwrnod olaf. Rydym yng nghanolfan siopa'r Quadrant unwaith eto heddiw, a dwi'n edrych ymlaen oherwydd fe gawsom ni ymateb gwerth chweil ddoe.

Roedd yn syniad grêt i ofyn i Lyfrgell Abertawe ymuno â ni ar y stondin, oherwydd mae pobl lleol wedi cael y cyfle i ofyn cwestiynau am adnoddau'r llyfrgell a rhai wedi ymaelodi. Roedd llawer yn poeni am y ffaith fod llyfrgell y dre'n symud, felly roedd yn gyfle i'r staff esbonio fod y lleoliad newydd yn mynd i wella'r gwasanaeth.

Ar stondin Stori Sydyn, cawsom gyfle i siarad wyneb-yn-wyneb â bobl am y gyfres a disgrifio'r llyfrau unigol. Mae'n grêt cael ystod mor eang o deitlau i sôn amdanynt, ac i gael gymaint o wahanol fathau o lyfrau, gan fod rhamant at ddant rhai, neu bywgraffiadau'n siwtio eraill.

No comments: