Diwrnod 12 - Dydd Gwener, Mawrth 16, 2007

Ar yr un pryd a gweithdy Lindsay ddoe, cynhaliwyd bore coffi gan CYD (Cymdeithas y Dysgwyr), un arall o'n partneriaid ni ar y prosiect hwn. Cafodd aelodau'r gymdeithas y cyfle i sgwrsio â Caryl Lewis am ei Stori Sydyn, sef Y Rhwyd.

Mae Caryl yn awdures boblogaidd iawn yng Nghymru, wedi iddi gipio Gwobr Llyfr y Flwyddyn am ei hail nofel, Martha, Jac a Sianco yn 2005. Mae hi o Geredigion hefyd, ac wrthi'n cyhoeddi ei trydedd nofel, Y Gemydd. Dwi'n edrych ymlaen i'w ddarllen. Fe wnes i fwynhau Y Rhwyd, roedd o'n un o'r storïau 'na lle roeddech chi o hyd yn ceisio dyfalu beth oedd am ddod nesaf, ac roedd y stori'n un fodern iawn, gan ddefnyddio negeseuon testun, 'chatrooms' cyfrifiadurol ac ati.

Fel y dywedais ar ddechrau'r prosiect yma, mae'r llyfrau Stori Sydyn yn boblogaidd iawn gyda dysgwyr. Oherwydd fod y iaith yn iaith bob dydd, does dim rhaid i ddysgwyr fod yn mynd i'r geiriadur bob munud, sy'n helpu iddynt fwynhau darllen yn y Gymraeg.

Trefnodd Jaci Taylor gwis Stori Sydyn fin nos, ble'r oedd pum tim yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i weld pwy oedd yn cofio'r mwya' am y llyfrau - ac wrth gwrs, roedd yn gyfle i ymarfer siarad Cymraeg!

No comments: