Nôl adre.
Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi casglu pob math o wybodaeth am arferion darllen pobl, drwy drefnu arddangosfeydd, gweithdai a gwahanol ddigwyddiadau eraill.
Un canlyniad diddorol o'r ymchwil yw pa mor bwysig y mae nain a taid wrth annog plant ifanc i ddarllen. Dywedodd llawer o'r bobl hyn wrthym mai nhw oedd yr unig bobl oedd yn darllen gyda'i wyrion neu wyresau, ac mai nhw oedd yr unig rai oedd yn prynu llyfrau fel anrhegion iddynt. Roedd hefyd yn ddiddorol nodi fod pobl yn gweld llyfrgelloedd fel y ffordd gorau i hybu darllen, hyd yn oed os nad oeddent yn mynd i lyfrgell eu hunain!
Y peth mwyaf positif oedd yr 'Ydi' cadarnhaol iawn i'r cwestiwn: A yw darllen yn bwysig? Wrth ofyn iddynt esbonio pam, roedd y sylwadau yn cynnwys:
mae'n estyn eich gorwelion
mae'n dysgu pethau newydd i chi
mae'n rhoi cymorth i chi wella'ch bywyd
mae'n gwneud i chi ymlacio
mae'n hwyl
mae'n eich ysbrydoli
Gobeithio y parha'r gyfres Stori Sydyn i wneud hyn.
Hwyl fawr!
Diwrnod 19 - Dydd Gwener, Mawrth 23, 2007
Diwrnod olaf prosiect Cymunedau'n Darllen yn Abertawe.
Mae wedi bod yn gyfnod prysur dros ben, ond dyma ni wedi cyrraedd y diwrnod olaf. Rydym yng nghanolfan siopa'r Quadrant unwaith eto heddiw, a dwi'n edrych ymlaen oherwydd fe gawsom ni ymateb gwerth chweil ddoe.
Roedd yn syniad grêt i ofyn i Lyfrgell Abertawe ymuno â ni ar y stondin, oherwydd mae pobl lleol wedi cael y cyfle i ofyn cwestiynau am adnoddau'r llyfrgell a rhai wedi ymaelodi. Roedd llawer yn poeni am y ffaith fod llyfrgell y dre'n symud, felly roedd yn gyfle i'r staff esbonio fod y lleoliad newydd yn mynd i wella'r gwasanaeth.
Ar stondin Stori Sydyn, cawsom gyfle i siarad wyneb-yn-wyneb â bobl am y gyfres a disgrifio'r llyfrau unigol. Mae'n grêt cael ystod mor eang o deitlau i sôn amdanynt, ac i gael gymaint o wahanol fathau o lyfrau, gan fod rhamant at ddant rhai, neu bywgraffiadau'n siwtio eraill.

Diwrnod 18 - Dydd Iau, Mawrth 22, 2007
Penderfynais y byddai'n syniad da i drio cyrraedd gymaint o bobl â phosib drwy gymryd gofod arddangos mewn canolfan siopa. Y syniad oedd bod y bobl oedd yn mynd i ganolfan siopa ddim o reidrwydd yn ddarllenwyr brwd neu'n bobl oedd yn ymweld â llyfrgelloedd, ac fel hyn y byddai'n bosib hybu'r llyfrau i'r cyhoedd.
Gyda hyn mewn golwg, cawsom ofod yng nghanolfan siopa'r Quadrant reit yng nghanol y ddinas, a rhoddwyd gwahoddiad i Lyfrgell Abertawe ymuno â ni er mwyn dangos beth oedd ar gael mewn llyfrgelloedd erbyn hyn. Mae rhai pobl dal yn meddwl fod llyfrgelloedd yn lefydd diflas a llym, ac mae hyn wedi bod yn ddelwedd anodd iddynt gael gwared ohono. Ond y dyddiau hyn, mae llyfrgelloedd yn adnodd gwerthfawr i'r holl gymuned ei ddefnyddio, a does dim rhaid bod yn ddistaw trwy'r adeg!
Yn y pnawn, daeth Lleucu i gymryd drosodd ar y stondin ac fe es i fyny i'r Dragon Arts and Learning Centre ble'r oeddem wedi trefnu i Lynne Barrett-Lee, awdur un o gyfres Stori Sydyn y llynedd ac awdur llyfr Fiona Phillips, A Day to Remember, yn gwneud gweithdy ysgrifennu creadigol.
Mae'r Dragon Arts and learning centre yn darparu dosbarthiadau addysg a chelf a chyfleon eraill i unrhyw un sydd wedi bod yn ddigartref neu wedi profi unrhyw fath o waharddiad cymdeithasol. Maen nhw'n helpu'r unigolion hyn i ennill cymwysterau am y gwaith y maent yn ei wneud adref ac yn y ganolfan.
Siaradodd Lynne gyda'r grwp am sut y mae hi'n rhoi stori at ei gilydd, a rhoddodd ambell awgrym iddynt am ble i ddechrau gyda stori. Roedd sawl aelod o'r grwp eisiau gwybod sut aeth ati i gyhoeddi ei gwaith, ac esboniodd Lynne am y ffordd gorau i fynd o'i chwmpas hi.
Roedd y grwp yn un brwdfrydig iawn, ac wrth i Lynne gael hoe fach cawsant gyfle i sgwennu ei storïau ei hunain. Yn debyg i'r grwp yn y carchar, roedd y gwaith yn onest iawn - weithiau'n ysgytiol. Roedd rhai storïau'n disgrifio trais a homoffobia, camddefnydd o gyffuriau ac alcohol a dieithriad. Er bod dim un o'r grwp yn barod i ddweud fod y darnau'n hunangofiannol, roedd yn amlwg fod rhai ohonynt yn sgwennu o brofiad personol.
Ar ddiwedd y sesiwn, cafodd Lynne syrpreis arbennig wrth i un aelod o'r grwp oedd wedi cymryd lluniau ohoni ar ddechrau'r gweithdy ei chyflwyno gyda llun wedi'i fframio ohoni hi a'r grwp i gofio'r diwrnod. Diolch i bawb yn y ganolfan am eu help.

Dydd Mercher, Mawrth 21, 2007
Mae Dad yn 60 heddiw - PENBLWYDD HAPUS Dad!
Newid hollol o ddoe, ac heno rwyf wedi bod yn Ysgol Gynradd Catwg, ger Castell Nedd er mwyn rhoi copïau o'r llyfrau i Sefydliad y Merched, sy'n helpu ni i rhoi'r llyfrau Stori Sydyn allan.
Pryd cyrhaeddais yr ysgol i gyfarfod â Pam Muir, doeddwn i ddim yn disgwyl gweld cymaint o bobl - mae'n rhaid fod yna tua 100 o ferched yn neuadd yr ysgol!
Mae aelodau'r WI yn mynd i ddarllen y llyfrau ei hunain, ac yna ei pasio ymlaen i ffrindiau a theulu sydd efallai allan o'r arferiad o ddarllen. Mae grwpiau yn Aberystwyth ac yng NGhaernarfon eisoes wedi gwneud hyn. Dywedodd un ddynes wrthyf ei bod yn mynd basio'r llyfr ymlaen i'w mham, oedd yn arfer mwynhau darllen yn fawr ond sydd bellach yn dioddef o clefyd Alzheimer's. Tydi hi ddim yn gallu darllen mwy nag ychydig dudalennau o lyfr bellach, ond roedd hi'n meddwl efallai y byddai'n medru gorffen un o'r Storïau Sydyn.

Diwrnod 16 - Dydd Mawrth, Mawrth 20, 2007
Tro Rhodri i ymweld â'r carchar heddiw, gan ein bod ni'n rhedeg gweithdy yng ngharchar Abertawe gyda'r awdur Niall Griffiths.
Mae Carchar Abertawe yn garchar Categori B, ac y mae'n dal dynion sydd naill ai wedi eu cadw yn y ddalfa gan y llysoedd, wedi ei dedfrydu neu wedi eu canfod yn euog.
Wrth ddechrau meddwl am y gweithdai yma yn y carchar, es ati i ofyn i swyddogion addysg y carchardai pa fath o lyfrau oedd y carcharorion yn hoffi ei darllen. Yn ddigon eironig, 'thrillers' trosedd ac yn enwedig trosedd go iawn oedd yn apelio fwyaf! Felly fe benderfynais mae llyfr Niall Griffiths, comedi du am ddyn yn rhedeg i ffwrdd o Lundain gyda 'gangster' ar ei ôl fyddai'r dewis gorau ar gyfer y gweithdai yma.
Pythefnos yn ôl, aeth Rhodri a Niall i'r carchar am y tro cyntaf er mwyn rhoi copïau o'r llyfrau allan ac i Niall gael cyflwyno ei hun fel awdur, gan esbonio'r hyn oedd o'n ei wneud o ddydd i ddydd a siarad am ei lyfrau eraill. Yna fe osododd y sialens o sgwennu 'Stori Sydyn' o ddim mwy na 500 gair, gan ddweud y byddai'n dod yn ôl yn ystod Wythnos Cymunedau'n Darllen er mwyn dewis yr un gorau i dderbyn gwobr.
Dywedodd Rhodri fod yr hogia'n reit onest gyda Niall am y llyfr - dywedodd un iddo fwynhau'r llyfr yn arw, ond fod y diwedd yn sâl! Dwi'n meddwl fod Niall yn oce am y peth!
Gweithiodd y sialens sgwennu yn arbennig o dda. Roedd rhai ohonynt yn straeon emosiynol dros ben, yn dod yn syth o'r galon, ac mae llawer o'r dynion yma wedi cael profiadau ofnadwy. I ryw raddau, roedd yn esbonio sut y bod rhai o'r dynion deallus a senstif yma wedi darganfod eu hunain yn y fath sefyllfa.
Dwi'n gobeithio y cawn ni gyfle i roi rhai o'r straeon ar y blog yma.

Diwrnod 15 - Dydd Llun, Mawrth 19, 2007
Helo Abertawe!
Wythnos arall o tref arall a dyma ni yma yn cynnal Wythnos Cymunedau'n Darllen yn Abertawe.
Roedden ni'n brysur iawn heddiw, a phawb yn gorfod rhoi help llaw i fynd a'r llyfrau i'r busnesau oedd yn cymryd rhan. Abertawe yw'r unig ddinas a'r lle mwyaf i ni gynnwys, felly roedd hi'n dipyn anoddach i ddod o hyd i bobman. Ond roedd pawb yn grêt - mae i weld yn le cyfeillgar iawn a phawb yn fodlon helpu, hyd yn oed wedi i mi fynd ar goll yn trio dod o hyd i Ysgol Gymunedol Townhill!
Unwaith eto, roedd pob math o fusnesau'n cymryd rhan - o'r caffi Starbucks yng Nghanolfan Siopa Fforestfach i dafarn y Villiers' Arms, Zest Cafe Bar wrth y dwr a syrjeri deintyddol Alexandra Road yn Gorseinon.

Diwrnod 12 - Dydd Gwener, Mawrth 16, 2007
Ar yr un pryd a gweithdy Lindsay ddoe, cynhaliwyd bore coffi gan CYD (Cymdeithas y Dysgwyr), un arall o'n partneriaid ni ar y prosiect hwn. Cafodd aelodau'r gymdeithas y cyfle i sgwrsio â Caryl Lewis am ei Stori Sydyn, sef Y Rhwyd.
Mae Caryl yn awdures boblogaidd iawn yng Nghymru, wedi iddi gipio Gwobr Llyfr y Flwyddyn am ei hail nofel, Martha, Jac a Sianco yn 2005. Mae hi o Geredigion hefyd, ac wrthi'n cyhoeddi ei trydedd nofel, Y Gemydd. Dwi'n edrych ymlaen i'w ddarllen. Fe wnes i fwynhau Y Rhwyd, roedd o'n un o'r storïau 'na lle roeddech chi o hyd yn ceisio dyfalu beth oedd am ddod nesaf, ac roedd y stori'n un fodern iawn, gan ddefnyddio negeseuon testun, 'chatrooms' cyfrifiadurol ac ati.
Fel y dywedais ar ddechrau'r prosiect yma, mae'r llyfrau Stori Sydyn yn boblogaidd iawn gyda dysgwyr. Oherwydd fod y iaith yn iaith bob dydd, does dim rhaid i ddysgwyr fod yn mynd i'r geiriadur bob munud, sy'n helpu iddynt fwynhau darllen yn y Gymraeg.
Trefnodd Jaci Taylor gwis Stori Sydyn fin nos, ble'r oedd pum tim yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i weld pwy oedd yn cofio'r mwya' am y llyfrau - ac wrth gwrs, roedd yn gyfle i ymarfer siarad Cymraeg!

Diwrnod 11 - Dydd Iau, Mawrth 15, 2007
Tri digwyddiad yn Aberystwyth heddiw.
Y cyntaf oedd gweithdy gydag awdures The Rubber Woman, Lindsay Ashford.
Gan gydweithio â Geraldine Taylor, y tiwtor sgiliau sylfaenol, a Derval Casey, ymgynghorydd dysgu yn y gweithle, darllenodd Lindsay (sy'n byw y tu allan i Aberystwyth yn Borth) ddarnau o'i llyfr a cafodd y grwp y siawns i'w holi. Roedd yn ddiddorol clywed am sut y cychwynodd Lindsay sgwennu ffuglen trosedd, am ei gradd mewn troseddeg a'r ymchwil aeth i mewn i The Rubber Woman. Mae'n debyg i Lindsay ddilyn gweithwraig cymunedol yn ei gwaith wrth iddi drio cael puteiniaid i ffwrdd o'r strydoedd yn Birmingham, ac iddi ddysgu llawer am y cyffuriau sy'n cadw'r merched yn gaeth i fywyd mor drychinebus.
Cafodd y dysgwyr i gyd gopi o'r llyfr ar ddiwedd o sesiwn, ac mae'r tiwtor yn mynd i ddarllen y llyfr fel grwp, gyda'r dysgwyr yn dilyn yn eu copïau unigol. Wedyn mi fyddent yn cael trafodaeth am y llyfr ac yn ysgrifennu ychydig yn dweud eu barn. Bydd y darnau yma wedyn yn cael ei gyrru i ni. Dwi'n edrych ymlaen i weld eu sylwadau.

Diwrnod 10 - Dydd Mercher, Mawrth 14, 2007
Mae'n benblwydd arna i heddiw!
Gawsom ni hwyl yn mynd o gwmpas yr holl gaffis, tafarndai a busnesau eraill oedd yn cymryd rhan yn yr ymgyrch - mae'n neis cyfarfod yr holl bobl rydych wedi bod yn siarad â hwy dros y ffôn a dangos y llyfrau iddyn nhw. Roedden nhw i gyd yn meddwl fod yr ymgyrch yn syniad da. Doeddwn i ddim yn 'nabod Aber yn rhy dda cyn hyn, ond dwi'n dechrau ffeindio fy ffordd o gwmpas erbyn hyn!
Y ffotograffydd Keith Morris oedd yn ein helpu gyda'r lluniau. Roedd rhai ohonynt yn ddigon bodlon, yn perfformio o flaen y camera yn syth, tra roedd angen annog rhai eraill i wenu gyda rhai o jôcs difrifol Keith (sori Keith!)

Diwrnod 8 - Dydd Llun, Mawrth 12, 2007
Rydym wedi cyrraedd Aberystwyth yr wythnos hon. Fe gawsom ni ymateb da iawn gan bob math o fusnesau yn Aber, gyda dros 15 yn cymryd rhan yn yr ymgyrch drwy arddangos posteri neu lyfrau, felly heddiw aethom o gwmpas y busnesau er mwyn dosbarthu deunydd ac esbonio ychydig mwy am y cynllun. Roedd siopau trin gwallt, caffis, meddygfeydd a syrjeris deintyddol yn cymryd rhan, yn ogystal â'r ysgol gynradd leol ym Mhenparcau, Llwynyreos. Fel rhan o'r ymgyrch 'Darllen Miliwn o Eiriau yng Nghymru', darparwyd copïau o'r llyfrau Stori Sydyn gyda'r nifer o eiriau ar y clawr, er mwyn i'r rhieni gael cyfrannu at y cyfanswm! Bum hefyd yn y Ganolfan Hamdden ac yn Coleg Ceredigion yn trefnu arddangosfeydd. Gyda'r holl gefnogaeth, dwi'n gobeithio y bydd y cyfryngau lleol yn pigo fyny ar neges Stori Sydyn ac y cawn luniau yn y papur newydd.
Subscribe to:
Comments (Atom)