Diwrnod 1 – Dydd Llun, Mawrth 5, 2007

Mae’r wythnos gyntaf o ymgyrch Cymunedau’n Darllen yn dechrau heddiw.

Mae’r paratoadau i gyd wedi’i gwneud ac mae’n bryd dechrau arni o ddifri!

Mae Cymunedau’n Darllen wedi ei drefnu er mwyn hyrwyddo cyfres newydd o lyfrau gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a Cyngor Llyfrau Cymru, sef Stori Sydyn/Quick Reads, a dros y tair wythnos nesaf, rwy’n gyfrifol am drefnu digwyddiadau yng Nghaernarfon, yn Aberystwyth ac yn Abertawe er mwyn rhoi llwyfan i’r llyfrau yn y gymuned ac annog bobl i fachu llyfr.

Er mai hwn yw diwrnod swyddogol cyntaf yr ymgyrch yng Nghaernarfon, yng ngharchar Altcourse yn Fazakerley, Lerpwl oeddwn i heddiw i ddangos y llyfrau i grwp o Gymry. Dyma’r carchar agosaf i Ogledd Cymru a Chaernarfon, ac felly dyma ble mae llawer o droseddwyr o’r ardal yn mynd.

Mae’n debyg fod gan 75% o’r rheiny sy’n cael eu derbyn i mewn i’r carchar oed darllen sy’n gymharol i blentyn 8 mlwydd oed, sy’n ystadeg brawychus. Felly mae’r llyfrau Stori Sydyn, sydd wedi ei sgwennu’n arbennig ar gyfer egin ddarllenwyr neu ddarllenwyr newydd, yn ddelfrydol, ac roedd y grwp y cwrddais i â nhw yn pendant yn awyddus iawn i gael y cyfle i’w darllen, yn enwedig y rhai Cymraeg. Rydym wedi gadael ffurflenni adborth gyda nhw, felly mi fydd yn ddiddorol cael clywed eu barn am y llyfrau mewn ychydig wythnosau.

Yn aml, mae’n anodd i bobl sy’n gweld darllen yn beth caled ddod o hyd i’r llyfrau ‘na mae pawb yn mwynhau – y straeon arswyd, y rhamant neu hunangofiannau. Mae’r gyfres Stori Sydyn/Quick Reads yn cynnwys pob math o lyfrau. Mae dau o’r llyfrau Cymraeg yn straeon arswyd – un gan Gareth F Williams, Tacsi i’r Tywyllwch, ac un gan Caryl Lewis, Y Rhwyd. Mae Tacsi i’r Tywyllwch yn atgoffa fi o un o’r rhaglenni dau ran ‘na ble mae darnau o gyrff dros y lle i gyd a phethau ofnus yn digwydd mewn corneli tywyll. Mae’r Rhwyd yn chwarae gyda dychmyg rhywun (mewn ffordd da!), yn un o’r llyfrau ‘na sy’n pwyntio’r bys ar bob cymeriad yn y llyfr cyn datgelu pwy yw’r un sydd wir ar fai.

Mae llyfr Bethan Gwanas Os Mêts i gyd am grwp o genod yn mynd ar noson cwennod (neu hen night i chi a fi) – fel allwch ddychmygu, mae pethau’n y mynd ar chwal braidd ac ambell gath yn cael ei gollwng o’r cwd, ond mae na ddigon o hwyl i gael hefyd. Un arall sydd wedi gwneud i mi chwerthin yn uchel (yn gyhoeddus, ga’i ychwanegu) yw un Gary Slaymaker, sy’n rhyw fath o hunangofiant mewn ffordd, yn sôn am sut y daeth o’n gymaint o ffan o ffilmiau, straeon am ei ac o glwb peldroed Caerdydd.

Mae na bedwar llyfr Saesneg hefyd yn y gyfres, i gyd gan awduron sydd â chysylltiad â Chymru. Mae llyfr Fiona Phillips A Day to Remember yn stori rhamant, a stori arswyd sydd gan Niall Griffiths gyda Bring It Back Home. Mae llyfr Tanni Grey-Thompson Aim High yn sôn am ei gyrfa hir a sut mae hi wedi llwyddo i ddisgleirio yn ei maes, a llyfr Lindsay Ashford The Rubber Woman yn stori arswyd arall am lofruddiaeth a puteiniaid ar strydoedd cefn Caerdydd.

Popeth yn barod at fory rwan, ac fy ymweliad â’r ysbyty.

No comments: