Diwrnod 7 - Dydd Sul, Mawrth 11, 2007

Lot o hwyl mewn Diwrnod i’r Teulu draw yn Galeri, Caernarfon. Mae’r diwgyddiad yn cael ei drefnu deirgwaith y flwyddyn gan Cyswllt Teulu i deuluoedd sydd a phlant gyda awtistiaeth fwynhau diwrnod i’r teulu oll, ac mae cyfle i weld ffilm a chymryd rhan mewn gweithdy cerdd.

Fel rhieni prysur, doedd gan yr oedolion oedd yna ddim llawer o amser i ddarllen – dywedodd un ddynes ei bod wedi bod yn trio gorffen yr un llyfr ers dros flwyddyn! Dywedodd un arall y byddai’n hoffi cymryd llyfr i’w mham, oedd mewn tipyn o oed, gan fod y print bras yn haws i’w ddarllen. Roedd y syniad y tu ôl i Stori Sydyn wir yn apelio i’r teuluoedd prysur yma, ac roeddwn wrthi drwy’r dydd yn esbonio’r gwahanol lyfrau oedd ar gael a’r syniad y tu ôl i’r gyfres.

Diwrnod 4 – Dydd Iau, Mawrth 8, 2007

Diwrnod prysur iawn heddiw.

Am 9.30am aethon ni draw i Ganolfan Noddfa ar ystad Ysgubor Goch yng Nghaernarfon. Mae grwp o famau yn mynd a’i plant yno pob wythnos i sesiwn Ti a Fi, a cawsom ein gwahodd gan y ganolfan i siarad â’r mamau tra roedd y plant yn mwynhau ei chwarae!
Trafododd Bethan Gwanas ei llyfrau ac yn arbennig Os Mêts, gan ofyn i’r merched am eu harferiadau darllen. Cafodd pob mam gopi o’r llyfrau i fynd adre ac mi fydd yn dda clywed eu barn unwaith y maent wedi cael yr amser i ddarllen y llyfrau rhwng poteli a napis!

Aeth Bethan finnau ymlaen wedyn i lyfrgell Caernarfon, ble mae grwp o famau ifanc (i gyd rhwng 15 a 18 oed) yn cwrdd i siarad gyda’r fudwraig. I ddechrau, roedd y genod ychydig yn swil o Bethan, ond yn y diwedd roedd yn troi allan fod llawer ohonynt wedi darllen rhai o’i llyfrau yn yr ysgol, felly roeddent yn falch iawn o gael y cyfle i ddarllen y llyfr diweddara a siarad gyda Bethan am y profiad o fod yn fam ifanc.

Yn y prynhawn, roedd gennym ddigwyddiad arbennig yn y bar yng nghanolfan creadigol Galeri. Cyfle oedd hwn i’r cyhoedd ddod i wrando ar Bethan Gwanas yn cael ei holi am y llyfr newydd gan Luned Emyr, cyflwynydd y Sioe Gelf ar S4C. Cawsom ddigwyddiad hwylus iawn, gyda phawb yn eistedd yn gyfforddus gyda’i coffi ar y soffa gan wrando ar y sgwrs hamddenol rhwng y ddwy ferch. Roedd yn ddiddorol gweld pobl yn pasio ac yn holi beth oedd yn mynd ymlaen, ac erbyn y diwedd, roedd y gynulleidfa wedi dyblu.

Diwrnod 3 – Dydd Mercher, Mawrth 7, 2007

Cynhaliwyd bore coffi a cwis Stori Sydyn gan CYD ddoe. Mae llyfrau Stori Sydyn yn apelio’n fawr i ddysgwyr, gan fod y iaith yn iaith pob dydd a’r llyfrau’n eithaf byr. Rwyf wedi cael llawer o ddysgwyr yn dwedu wrthyf faint mor falch ydynt bod mwy o lyfrau Stori Sydyn wedi’i cyhoeddi eto’r flwyddyn hon, gan eu bod wedi darllen y pedwar arall!

Yn Hwyrach - Diwrnod 2, Dydd Mawrth, Mawrth 7 2007

Pnawn ‘ma, roedd Gwenan yn brysur yn mynd o gwmpas y siopau, y swyddfeydd, ystafelloedd aros y deintyddion a’r meddygfeydd, tafarndai, swyddfeydd post a chanolfannau eraill sydd wedi cytuno i gymryd rhan yn yr ymgyrch Cymunedau’n Darllen drwy arddangos llyfrau a rhoi posteri i fyny.

Mae’r ymateb wedi bod yn grêt, mae pobl i weld yn hoffi’r syniad, ac yn teimlo’n gryf fod hwn yn gyfle da i ymestyn y cyfleoedd sydd gan bobl i bigo llyfr i fyny.

Diwrnod 2 – Dydd Mawrth, Mawrth 6, 2007

Fel y dywedais yn y blog olaf, roeddwn i yn yr ysbyty heddiw. Dim byd difrifol – roeddwn i yna i hyrwyddo’r llyfrau ar Radio Ysbyty Gwynedd, gyda Merched Y Wawr.

Roedden ni’n meddwl y byddai’r llyfrau’n ddelfrydol ar gyfer pobl yn yr ysbyty gan eu bod mor hawdd i’w darllen, felly gofynnais i lywydd rhanbarthol Merched y Wawr os y byddai’n fodlon gwneud ychydig o recordio. Rhaid dweud roedd hi’n wych – gyda llais oedd yn gwneud i rywun ymlacio’n syth ond yn fywiog ar yr un pryd. Roedd hi’n ‘one take wonder’ go iawn felly roeddem ni wedi gorffen erbyn amser cinio. Mae Radio Ysbyty Gwynedd, sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac yn gwneud gwaith bendigedig, yn mynd i chwarae’r darnau o’r llyfrau drwy’r wythnos ar eu gwasanaeth 24 awr ac yn mynd i fynd o amgylch y wardiau i weld os ydi rhywun wedi cael blas ar y llyfrau ac eisiau benthyg copi i’w ddarllen.

Dyma lun o Mary ati’n recordio – diolch Mary!

Diwrnod 1 – Dydd Llun, Mawrth 5, 2007

Mae’r wythnos gyntaf o ymgyrch Cymunedau’n Darllen yn dechrau heddiw.

Mae’r paratoadau i gyd wedi’i gwneud ac mae’n bryd dechrau arni o ddifri!

Mae Cymunedau’n Darllen wedi ei drefnu er mwyn hyrwyddo cyfres newydd o lyfrau gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a Cyngor Llyfrau Cymru, sef Stori Sydyn/Quick Reads, a dros y tair wythnos nesaf, rwy’n gyfrifol am drefnu digwyddiadau yng Nghaernarfon, yn Aberystwyth ac yn Abertawe er mwyn rhoi llwyfan i’r llyfrau yn y gymuned ac annog bobl i fachu llyfr.

Er mai hwn yw diwrnod swyddogol cyntaf yr ymgyrch yng Nghaernarfon, yng ngharchar Altcourse yn Fazakerley, Lerpwl oeddwn i heddiw i ddangos y llyfrau i grwp o Gymry. Dyma’r carchar agosaf i Ogledd Cymru a Chaernarfon, ac felly dyma ble mae llawer o droseddwyr o’r ardal yn mynd.

Mae’n debyg fod gan 75% o’r rheiny sy’n cael eu derbyn i mewn i’r carchar oed darllen sy’n gymharol i blentyn 8 mlwydd oed, sy’n ystadeg brawychus. Felly mae’r llyfrau Stori Sydyn, sydd wedi ei sgwennu’n arbennig ar gyfer egin ddarllenwyr neu ddarllenwyr newydd, yn ddelfrydol, ac roedd y grwp y cwrddais i â nhw yn pendant yn awyddus iawn i gael y cyfle i’w darllen, yn enwedig y rhai Cymraeg. Rydym wedi gadael ffurflenni adborth gyda nhw, felly mi fydd yn ddiddorol cael clywed eu barn am y llyfrau mewn ychydig wythnosau.

Yn aml, mae’n anodd i bobl sy’n gweld darllen yn beth caled ddod o hyd i’r llyfrau ‘na mae pawb yn mwynhau – y straeon arswyd, y rhamant neu hunangofiannau. Mae’r gyfres Stori Sydyn/Quick Reads yn cynnwys pob math o lyfrau. Mae dau o’r llyfrau Cymraeg yn straeon arswyd – un gan Gareth F Williams, Tacsi i’r Tywyllwch, ac un gan Caryl Lewis, Y Rhwyd. Mae Tacsi i’r Tywyllwch yn atgoffa fi o un o’r rhaglenni dau ran ‘na ble mae darnau o gyrff dros y lle i gyd a phethau ofnus yn digwydd mewn corneli tywyll. Mae’r Rhwyd yn chwarae gyda dychmyg rhywun (mewn ffordd da!), yn un o’r llyfrau ‘na sy’n pwyntio’r bys ar bob cymeriad yn y llyfr cyn datgelu pwy yw’r un sydd wir ar fai.

Mae llyfr Bethan Gwanas Os Mêts i gyd am grwp o genod yn mynd ar noson cwennod (neu hen night i chi a fi) – fel allwch ddychmygu, mae pethau’n y mynd ar chwal braidd ac ambell gath yn cael ei gollwng o’r cwd, ond mae na ddigon o hwyl i gael hefyd. Un arall sydd wedi gwneud i mi chwerthin yn uchel (yn gyhoeddus, ga’i ychwanegu) yw un Gary Slaymaker, sy’n rhyw fath o hunangofiant mewn ffordd, yn sôn am sut y daeth o’n gymaint o ffan o ffilmiau, straeon am ei ac o glwb peldroed Caerdydd.

Mae na bedwar llyfr Saesneg hefyd yn y gyfres, i gyd gan awduron sydd â chysylltiad â Chymru. Mae llyfr Fiona Phillips A Day to Remember yn stori rhamant, a stori arswyd sydd gan Niall Griffiths gyda Bring It Back Home. Mae llyfr Tanni Grey-Thompson Aim High yn sôn am ei gyrfa hir a sut mae hi wedi llwyddo i ddisgleirio yn ei maes, a llyfr Lindsay Ashford The Rubber Woman yn stori arswyd arall am lofruddiaeth a puteiniaid ar strydoedd cefn Caerdydd.

Popeth yn barod at fory rwan, ac fy ymweliad â’r ysbyty.